Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

 

WESP 25

Ymateb gan : Rhodri Davies

Response from : Rhodri Davies

Cwestiwn 1

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Mewn egwyddor, ydy.

Yn anffodus, nid yw CSCMA cyngor Wrecsam yn cyflawni hyn.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

Nad oes gan gyngor Wrecsam gynllun digonol i sicrhau tŵf addysg Gymraeg yn y sir oblegid diffyg gweledigaeth a chynllunio priodol i sicrhau bod llefydd digonol ar gyfer disgyblion ble mae eu rhieni yn dymuno iddynt dderbyn addysg mewn ysgolion benodedig Gymraeg.

Cwestiwn 2

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Yn achos sir Wrecsam, na.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

Dylai'r cyngor sicrhau eu bod yn cynnal arolwg pwrpasol a chynhwysfawr er mwyn asesu'r galw am addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.  Yn ôl dogfen CSCMA y sir, mae'r cyngor ei hun yn derbyn bod yr ymateb i arolwg tila yn annigonol i lunio strategaeth clîr.  Mae 20% o'r sawl a gyfranodd i'r arolwg yn datgan dymuniad i'w plentyn/plant dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg,serch hynny mae'r cyngor yn darparu lle mewn ysgol cyfrwng Cymraeg ar gyfer 13% o blant y sir mewn addysg gynradd.

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

Mae nifer o rieni mewn rhai ardaloedd o Wrecsam yn methu sicrhau lle mewn ysgolion Cymraeg gan nad oes ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg o fewn eu cymuned lleol ac o ganlyniad mae nifer yn peidio â thrafferthu ceisio am le mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.  Yn syml, nid oes darpariaeth ddigonol ar gyfer addysg Gymraeg ym mhob ardal yng nghyngor Wrecsam.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Sicrhau bod arolwg pwrpasol yn gallu dynodi ble yn union mae diffyg darpariaeth daearyddol ar gyfer y galw am addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn osgoi sefyllfa lle mae rhieni yn methu cael mynediad addas ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg gan eu bod yn byw yn rhy bell o'r darparieth cyfredol, fel ag sydd yn digwydd wrth ddilyn polisi derbyn presennol y cyngor.

Cwestiwn 4

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Nid yw gweithredoedd cyngor Wrecsam yn cydfynd â gofynion y strategaeth yma.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

Yn Chwefror 2015 datganodd cyngor Wrecsam ei fod am ddileu cyllid Mudiad Meithrin yn y sir.  Nid oes modd i'r cyngor hybu tŵf mewn addysg Cymraeg heb fuddsoddi'n bwrpasol yn y sector yma.

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

 


 

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

 

Cwestiwn 6

Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Os yw cyngor Wrecsam am gynnal arolwg i'r galw am addysg Cymraeg, ei fod yn fwy pwrpasol a bod y cyngor yn gweithredu'n gadarnhaol yn sgîl ei ddarganfyddiadau er mwyn sicrhau bod strategaeth chlîr a digonol mewn lle i ateb y galw cyfredol am addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cydymffurfio ag ewyllys CSCMA y Cynulliad.

Cwestiwn 7

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?